CY/Prabhupada 0204 - Dwi'n derbyn trugaredd y guru. Hwn yw Vani



Morning Walk -- July 21, 1975, San Francisco

Prabhupāda: Ti'n gorfod treulio amser hefo'r ddau ohonyn nhw Guru-kṛṣṇa-kṛpāya pāya bhakti-latā-bīja (CC Madhya 19.151). Ma guru kṛpā a Kṛṣṇa kṛpā yn gorfod cael ei ymuno Wedyn byddwch yn cael.

Jayādvaita: Rydym yn awyddus iawn i derbyn hynny guru-kṛpā.

Prabhupāda: Pwy?

Jayādvaita: Ni, ni gyd

Prabhupāda: Ia. Yasya prasādād bhagavat-prasādaḥ. Os ti'n cael kṛpā gan y guru, wedyn yn awtomatig ti'n derbyn Kṛṣṇa.

Nārāyaṇa: Ydi Guru-kṛpā ond yn dod wrth plesio y meistr ysbrydol, Śrīla Prabhupāda?

Prabhupāda: Heblaw am hynny sut?

Nārāyaṇa: Sori, be?

Prabhupāda: Heblaw am hynny sut fedrith dod?

Nārāyaṇa: Felly mae'r disgyblion sydd ddim hefo'r cyfle i weld chi neu siarad efo chi...

Prabhupāda: Mi odd o yn siarad, vāṇī a vapuḥ. Hydnod os ti ddim yn gweld corff o, ti'n cymryd gair o, vāṇī.

Nārāyaṇa: Ond sut mae nhw'n gwybod fod nhw yn plesio chi, Śrīla Prabhupāda?

Prabhupāda: Os ti'n dilyn y guru, ma hynny'n meddwl fod o di plesio Ac os ti ddim yn dilyn, sut mae o'n cael ei plesio?

Sudāmā: Nid ond hynny, ond ma trygaredd chdi yn cael ei lledaenu ymhobman, ac os da ni yn cymeryd mantais, dyma chi yn deud i ni unwaith, byddwn yn teimlo'r canlyniad.

Prabhupāda: Ia.

Jayādvaita: Ac os da ni efo ffydd mewn be ma'r guru yn dweud, wedyn yn awtomatig byddwn yn neud hynny.

Prabhupāda: Ia Dyma athro fi Guru Mahārāja pasio mlaen yn 1936, a dyma fi yn dechra'r symudiad yma yn 1965, tri-deg mlynadd wedyn Ac yna? Dwi'n cael trugaredd y guru Hwn yw vāṇī. Hydnod os di'r guru ddim yn presennol yn corfforol, os ti'n dilyn y vāṇī,, wedyn ti'n cael cymorth.

Sudāmā: Felly does na ddim cwestiwn o ysgariaeth, os di'r disgybl yn dilyn hyfforddiant y guru.

Prabhupāda: Na Cakhu-dān dilo jei... Be di hynny, yr un nesa?

Sudāmā: Cakhu-dān dilo jei, janme janme prabhu sei.

Prabhupāda: Janme janme prabhu sei. Felly lle mae'r ysgariaeth? Yr un sydd wedi agor dy llygadau, efe yw genedigaeth ar ol genedigaeth prabhu.

Paramahaṁsa: Da chi byth yn teimlo ysgariaeth dwys o'ch meistr ysbrydol?

Prabhupāda: Nid oes angen gofyn hynny.